Ddeuddydd wedi’r golled dorcalonnus honno’n erbyn Gwlad Pwyl, mi ffeindiais fy hun yn bwrw ati gydag un o’m hoff weithgareddau – ffeindio caffi i gael brecwast. Anaml mewn difri dwi’n cael brecwast llawn dyddiau hyn, trît ydi o. Brecwast Seisnig hefyd, nid un Cymreig efo cocos a bara lawr, yn bennaf achos y byddai llyncu cocos yn gallu fy lladd diolch i alergedd at bysgod cregyn, a bod bara lawr wir yn un o’r pethau gwaethaf a ddyfeisiwyd fel bwyd.