Tra’r oedd y pyndits ar S4C a Radio Cymru yn galw am gadw Rob Page yn ei swydd, roedd llawer o gefnogwyr Cymru ar y cyfryngau cymdeithasol yn mynnu fod angen iddo fynd wedi’r golled greulon yn erbyn Gwlad Pwyl.

Wedi i’r llwch setlo, Gwilym Dwyfor sy’n edrych mewn gwaed oer ar sefyllfa’r rheolwr, rhai o’r chwaraewyr hŷn ac ambell wyneb newydd sy’n haeddu cyfle yn y gêm nesaf yn Slofacia…