Carmen Smith yw aelod ieuengaf Tŷ’r Arglwyddi yn Llundain ac mae hi eisiau bod yn llais dros Gymru a phobol ifanc yno.
Mae yna 785 o aelodau yn Nhŷ’r Arglwyddi, a’r mwyafrif llethol yn ddynion hŷn – oedran yr aelodau, ar gyfartaledd, yw 70.
Felly does ryfedd bod Carmen Ria Smith wedi cael sylw mawr gan Sky News a chyfweliad swmpus ym mhapur newydd The Times ers y cyhoeddiad ei bod am ymuno ag ail siambr Senedd gwledydd Prydain yn San Steffan.
Daeth yn aelod swyddogol yn dilyn seremoni ar 21 Mawrth, llai nag wythnos wedi iddi ddathlu ei phen-blwydd yn 28 oed. Ac un o’r pethau cyntaf iddi ei wneud oedd cychwyn sgwrs am yr iaith Gymraeg.
Cafodd ei chyflwyno i Dŷ’r Arglwyddi – lle maen nhw yn trin a thrafod deddfau posib Llywodraeth Prydain – gan gyn-Lywydd Plaid Cymru, Dafydd Wigley, a chyn-Arweinydd y Blaid Werdd, Natalie Bennet.
Ond yn ôl Carmen Smith, sydd yn wreiddiol o Lanfaes ger Biwmares ar Ynys Môn, doedd hi ddim yno am y seremoni.
“Beth sy’n bwysig i mi ydy’r fraint i sefyll i fyny tros bobol ar draws Cymru a rhoi llais iddyn nhw yn San Steffan, ble nad yw Cymru yn flaenoriaeth i neb,” meddai wrth Golwg.
“Dw i eisiau sefyll i fyny a rhoi llais i bobol.”
Dywed ei bod hi wedi teimlo’n “anghyfforddus” yn ystod y seremoni derbyn, oedd yn golygu gwisgo dillad penodol.
“Ond dw i’n meddwl y byddai’n rhyfedd pe bawn i’n teimlo’n gyfforddus wrth wneud,” ychwanega.
“Dydych chi ddim yn gwisgo gŵn i’r gwaith bob dydd, ydych chi?
“Roeddwn i eisiau cael y seremoni drosodd gydag ef er mwyn i mi allu dechrau ar y gwaith sydd i’w wneud.”
Yn ystod y seremoni fe wnaeth Carmen Smith dyngu llw trwy gyfrwng y Gymraeg, ac roedd yn “hapus iawn” cael gwneud hynny.
“Mae hyn yn bwysig o ran yr iaith Gymraeg,” meddai.
“Cyn y seremoni, roedd yn rhaid i fi ddysgu pobol sut i ddweud Llanfaes.
“Wnes i fwynhau hynny achos rydyn ni wedi dechrau cael sgyrsiau gyda phobol am yr iaith ac rydw i’n meddwl bod hynny’n beth da.”
Galw am gynrychiolaeth deg
Mae Carmen Smith yn cymryd drosodd gan Dafydd Wigley fel cynrychiolydd Plaid Cymru yn Nhŷ’r Arglwyddi, a’i theitl swyddogol yno yw y Farnwes Smith o Lanfaes.
Bydd Dafydd Wigley yn parhau yn Nhŷ’r Arglwyddi am blwc er mwyn helpu ei olynydd i ymgyfarwyddo â’i swydd newydd.
Mae hyn yn golygu mai un aelod yn unig fydd gan Blaid Cymru yn Nhŷ’r Arglwyddi o hyd.
Fodd bynnag, mae’r Blaid yn teimlo y dylen nhw fod â thri aelod yn y siambr er mwyn cael cynrychiolaeth deg.
Doedd ganddyn nhw’r un aelod yn Nhŷ’r Arglwyddi tan i Dafydd Wigley ddod yn Farwn Wigley o Gaernarfon yn 2011, pan oedd David Cameron yn Brif Weinidog.
Yn ystod etholiad mewnol y Blaid yn ddiweddar cafodd Carmen Smith, Elfyn Llwyd ac Ann Griffith eu dewis fel ymgeiswyr ar gyfer Tŷ’r Arglwyddi. Elfyn Llwyd ddaeth i’r brig, ond Carmen Smith gafodd ei dewis i olynu Dafydd Wigley gan bod y Blaid eisiau cynyddu nifer y merched sy’n ei chynrychioli.
A gobaith Carmen Smith yw bydd y tri oedd yn y ras yn cael sedd yn y pen draw.
“Mae Dafydd Wigley ar fin ymddeol ar ôl etholiad cyffredinol a’r hyn rydyn ni’n ei obeithio fel canlyniad yw bod Elfyn Llwyd ac Ann Griffith yn ymuno â mi yn Nhŷ’r Arglwyddi,” meddai.
“Fel Plaid fe wnaethon ni ethol rhestr felly gobeithio y caiff y tri ohonom ni ymuno â’r Arglwyddi maes o law.”
Fel gweddill ei phlaid, dydy Carmen Smith ddim yn cytuno gyda bodolaeth Tŷ’r Arglwyddi. Ond fel Dafydd Wigley, mae hi’n credu, cyn belled a bod y siambr yn bodoli, y dylai bod llais teg i Gymru yno.
“Mae mor bwysig ein bod ni’n cael mwy o leisiau Cymraeg yn San Steffan i sefyll dros bobol Cymru,” meddai.
Ysbrydoliaeth gan Leanne Wood
Un o aelodau benywaidd amlycaf Plaid Cymru wnaeth ysbrydoli Carmen Smith i gynnig ei llais i’r byd gwleidyddol yn y man cyntaf.
Mae hi’n cofio’r diwrnod daeth cyn-Arweinydd y Blaid ar ymweliad i’w chynefin, sef Ynys Môn.
“Y person a’m hysbrydolodd gyntaf i gymryd rhan yn wleidyddol oedd Leanne Wood,” meddai Carmen Smith.
“Roedd hi i fyny yn Ynys Môn yn ystod yr etholiadau lleol ddeng mlynedd yn ôl, a wnes i weld hi yn cerdded o gwmpas gyda phobol camerâu a newyddiadurwyr yn ei holi hi.
“Dw i’n cofio meddwl: ‘O waw, pwy ydy hi? Mae pobol actually yn gwrando arni hi.’ Ro’n i yn meddwl bod gwleidyddiaeth jyst i ddynion.
“Wnes i ddechrau dilyn y pethau oedd Leanne Wood yn wneud ar gyfryngau cymdeithasol wedyn.
“Y foment hynny oedd pan wnes i benderfynu mynd i mewn i wleidyddiaeth.”
Y profiad gwleidyddol cyntaf
Mae sicrhau tegwch a chynrychiolaeth yn rhywbeth mae Carmen Smith wedi teimlo’n gryf amdano ers ei dyddiau yng Ngholeg Menai ym Mangor.
Wedi iddi gael ei hysbrydoli i fentro i’r byd gwleidyddol, penderfynodd sefyll i fod yn Ddirprwy Lywydd Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr.
“Y rheswm wnes i sefyll oedd oherwydd fy mod i’n ofalwr ar gyfer fy nhad oedd gyda dementia,” meddai.
“Roeddwn ni’n derbyn y budd-daliad Lwfans Cynhaliaeth Addysg ond roedd yn anodd derbyn cyllid myfyrwyr.
“Roedd yna rwystrau roeddwn i eisiau mynd i’r afael â nhw.”
Eglura bod y Lwfans Cynhaliaeth Addysg yn cael ei gyfrifo ar sail presenoldeb, felly os oedd hi’n methu gwers oherwydd ei bod hi’n yn brysur yn helpu gofalu am ei thad, doedd hi ddim yn derbyn ei harian yr wythnos honno.
“Roeddwn i hefyd eisiau mynd i’r brifysgol a chael y gefnogaeth ariannol i wneud hynny,” meddai.
“Roedd yn anodd iawn oherwydd roedd yn rhaid i fi ailadrodd fy stori wrth bobol wahanol bob dydd.”
Tra yn y rôl gydag Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr, penderfynodd Carmen Smith ei bod hi eisiau gwneud pethau’n haws i bobol ifanc eraill oedd yn ei hesgidiau hi.
Felly, ysgrifennodd bolisi oedd yn taclo’r heriau oedd yn ei hwynebu hi fel gofalwr ifanc, ac fe gafodd y polisi hwnnw ei gymeradwyo a’i roi ar waith gan y Gweinidog Addysg ar y pryd, Kirsty Williams.
“Nawr, dydy myfyrwyr sydd yn ofalwyr ddim yn means tested yng Nghymru,” meddai.
‘Angen pobol sy’n deall effaith polisi ar lawr gwlad’
Mae Carmen Smith wedi derbyn ymatebion cymysg i’w phenodiad diweddaraf.
Tra bod rhai’n falch o weld llais mor ifanc yn ymuno â Thŷ’r Arglwyddi, mae eraill wedi mynegi pryderon ei bod hi’n rhy ifanc ac ddim yn ddigon profiadol.
“Rwy’n meddwl yn unrhyw le lle mae penderfyniadau’n cael eu gwneud, yn enwedig mewn deddfwriaeth a fydd yn cael effaith ar fywydau pob dydd pobol, mae angen i chi gael pobol yn yr ystafell sy’n deall beth fydd effaith hynny ar lawr gwlad,” meddai.
“Er enghraifft, pe na bawn i ddim wedi ymuno â’r Undeb Myfyrwyr Cenedlaethol ac wedi ysgrifennu polisi ar gyfer myfyrwyr sy’n gofalu, mae’n debyg na fyddai hynny wedi digwydd.
“Roeddwn i wedi ei ysgrifennu o safbwynt bod yn fyfyriwr oedd yn gofalu [am riant].
“Rwy’n meddwl ei bod hi’n bwysig cael cynrychioli llawer o brofiadau bywyd gwahanol yn unrhyw le ble mae penderfyniadau yn cael eu gwneud.
“Rwy’n teimlo’n gryf iawn am hynny.”
Nid yw’n syndod felly mai bod yn llais positif dros bobol ifanc Cymru yw blaenoriaeth Carmen Smith.
Dywed bod llawer o feysydd mae hi’n gobeithio eu taclo pan ddaw i’r heriau sy’n wynebu pobol ifanc.
“Ar hyn o bryd mae gennym rent sy’n cynyddu ac mae dyledion hefyd yn uchel,” meddai.
“Mae yna waith ansefydlog gyda chontractau heb oriau ond hefyd y diffyg cyfleoedd i bobol ifanc.
“Gydag argyfwng costau byw mae myfyrwyr nawr yn ei chael hi’n anoddach nag erioed o ran talu eu biliau ac mae’n debyg nad ydyn nhw hyd yn oed yn troi eu gwres ymlaen oherwydd ei fod mor ddrud.
“Mae’r rhain yn faterion rydw i eisiau eu codi.”
Cyfleoedd a chysondeb
Er ei bod hi bellach wedi symud i lawr i Gaerdydd, fel un sydd wedi ei magu ar Ynys Môn, mae creu cyfleoedd ar yr ynys hefyd yn bwysig iawn iddi.
Aeth Carmen Smith i Ysgol David Hughes ym Mhorthaethwy – fel sawl un o’i chyd-bleidwyr.
Mae Arweinydd y Blaid, Rhun ap Iorwerth, a’r Aelodau o Senedd Cymru, Heledd Fychan a Peredur Owen ap Griffiths, hefyd yn gyn-ddisgyblion o’r ysgol.
Ac fel sawl aelod arall o’r Blaid, mae hi’n credu’n gryf bod yr angen i greu swyddi newydd ar yr ynys yn flaenoriaeth.
“Mae mor bwysig cael y cysondeb hwnnw o amgylch swyddi,” meddai.
“Rwy’n cefnogi trosglwyddo i ynni gwyrdd ac mae gennym lawer o botensial i arwain ar ynni gwyrdd yn y dyfodol.
“Rwy’n meddwl mai’r hyn sy’n bwysig i bobol yw bod swyddi ar eu cyfer nhw, yn enwedig mewn argyfwng costau byw ac yn enwedig gyda chymaint o fusnesau eraill yn gorfod cau ar Ynys Môn.”
Mae hefyd yn bryder mawr gan Carmen Smith bod tlodi yn cynyddu.
“Dw i eisiau rhoi dipyn bach o’r spotlight ar dlodi a siarad am beth gall y llywodraeth ei wneud.
“Dydy’r Torïaid jyst ddim yn gwneud unrhyw wahaniaeth i’r bobol sy’n gweithio ar draws Cymru nac i bobol ifanc.
“Beth ydy’r dyfodol? Dydy o ddim yn rhywbeth rydw i’n gyffrous amdano ar hyn o bryd achos mae gennym ni’r llywodraeth Dorïaidd sydd ddim rili’n gwybod sut i wneud gwahaniaeth i bobol bob dydd.”
Gwisgo treinyrs yn Nhŷ’r Arglwyddi?
Dywed Carmen Smith bod ei hesgidiau ffynci wastad wedi denu sylw ac mae yna dipyn o stori tu ôl i’w chariad at dreinyrs.
Ar hyd ei bywyd, mae hi wedi defnyddio treinyrs i ddathlu gwahanol gerrig milltir.
“Mae pawb gyda diddordeb yn esgidiau fi, acshyli,” meddai, tra’n gwisgo pâr newydd sbon o Dr. Martens a roddodd ei mam iddi ar ei phen-blwydd yn 28.
“Rydw i wedi gweithio ers o’n i’n 14 oed mewn llawer o swyddi lletygarwch.
“Bob tro ro’n i’n cael swydd newydd ac ro’n i’n cael fy nghyflog cyntaf ro’n i’n prynu pâr newydd o dreinyrs.
“Roedd hynny’n rhywbeth ro’n i’n ei wneud bob tro. Mae o’n swnio ychydig bach yn wirion ond roedd o’n rhyw fath o foment o: ‘Rydw i wedi ennill fy arian fy hun ac felly rydw i yn mynd i roi trît i fy hun’.
“Felly efallai, unwaith byddaf wedi setlo i mewn i Dŷ’r Arglwyddi, wna i brynu pâr newydd o dreinyrs Nike.”
Nid yw yn siŵr a fydd yn gwisgo ei threinyrs newydd yn Nhŷ’r Arglwyddi, ond mae yn bwysig iddi ei bod hi’n cael bod yn hi ei hun.
“Does gen i ddim problem o gwbl gyda gwisgo beth rydw i eisiau, dydw i ddim eisiau newid i neb.”