Bydd y rhai ohonoch sydd yn gwrando ar chwaer fach newydd y golofn hon, podlediad Ar y Soffa, wedi fy nghlywed i a’r Dr Kate Woodward yn trin a thrafod The Way yn ddiweddar. Cyfres ddrama dair rhan y BBC, stori ddystopaidd am wrthdaro sifil yn troi’n wrthryfel i bob pwrpas, wedi i berchnogion gwaith dur Port Talbot gau un o’r ffwrnesi. Ymgais gyfarwyddo gyntaf y gŵr lleol, Michael Sheen.