Un o fy hoff albyms o 2023 yw Baiaia! gan Gai Toms. Ac er bod sain gerddorol Gai Toms wedi ei ddiffinio ers amser mae rhywun yn clywed esblygiad pellach ar yr albym yma. Os caf ddefnyddio ystrydeb fel ‘aeddfed’, be dwi’n drio ddweud yw bod Baiaia! yn swnio fel artist sydd yn gyfforddus yn ei groen a jest efallai yn mwynhau cyfansoddi a rhannu caneuon.