Mae awgrym bydd buddugoliaeth y blaid Lafur yn yr Etholiad Cyffredinol nesaf yn un fwy sylweddol nag yn 1997…

Mae’r pôl piniwn diweddaraf yn awgrymu bod y Torïaid yn wynebu sefyllfa waeth na’r disgwyl pan ddaw’r Etholiad Cyffredinol nesaf.

Yn ôl yr arolwg o dros 15,000 o bobol, a gomisiynwyd gan Best for Britain, mae disgwyl bydd Llafur yn cipio 468 o’r seddi yn yr etholiad nesaf gan adael y Ceidwadwyr gyda chyn lleied â 98.