Yr ymateb arferol i’r polau piniwn y dyddiau yma fyddai amau: meddwl nad ydi hi’n bosib i’r Ceidwadwyr golli cymaint ac i Lafur wneud mor dda.

Fel rheol, mi fyddai sylwebwyr yn dweud bod pethau’n siŵr o glosio wrth i’r bleidlais nesáu ac y bydd rhai pleidleiswyr yn siŵr o gael ofn cyn y dydd.

Eleni, mi allai pethau fod yn wahanol. Mae’r Ceidwadwyr fel petaen nhw’n benderfynol o wireddu’r proffwydoliaethau a thorri’r record am chwalfa etholiadol.