Mae achos Alun Jones Williams, a gyhuddwyd rhai misoedd yn ôl o ddanfon negeseuon a lluniau amhriodol at blentyn, wedi bod yn un sobor o drist sydd wedi ennyn cryn ymateb. Cafwyd Mr Williams yn ddieuog o bob cyhuddiad yn Llys y Goron Caernarfon, wedi i Wasanaeth Erlyn y Goron benderfynu peidio â bwrw ymlaen â’r achos ar ôl adolygu’r dystiolaeth.