Mae yna ddipyn o emosiwn yn Golwg wsos yma.

Ceir geiriau tyner am gyfeillgarwch gan Emma Walford.

Mae hi wedi cael ei holi gan Cadi Dafydd am ei band bytholwyrdd, Eden, sy’n profi cyfnod melys iawn o gigio a recordio, a hynny chwarter canrif ers i’r genod o Glwyd ryddhau eu halbwm ddiwethaf.

Y bluen fawr arall yn het Emma, wrth gwrs, yw ei llwyddiant gydag un o raglenni mwyaf poblogaidd S4C – os nad YR UN fwya’ poblogaidd…