Fe fydd Cymry da’r gogledd ddwyrain yn dod ynghyd yn Wrecsam ddydd Sadwrn i gynnal un o seremonïau pwysica’r Steddfod Genedlaethol.

Bu’r ddinas eisoes yn dathlu dyrchafiad y clwb pêl-droed i drydydd haen uchaf cynghreiriau Lloegr – dim ond dau ddyrchafiad arall ac fe fyddan nhw yn y Premier League ac yn herio Man City, Lerpwl ac Arsenal!