Fyddwch chi yn profi gwefr wrth fwynhau brathiad gitâr drydan, sgrechfeydd aflan a drymio cadarn?

Os felly, dyma’r adeg berffaith i ymarfer y grefft o bendolcio (headbanging).

Ddydd Gwener yma mae hi’n Ddydd Miwsig Cymru, y dathliad blynyddol o bopeth sydd wych am y Sîn Roc Gymraeg.

Mewn gwirionedd, mae’r sîn yn gymaint mwy na ‘roc’ – erbyn hyn fe gewch chi rap, hip-hop, greim a gwerin gyfoes gan fandiau ac artistiaid lu yn Iaith y Nefoedd.