Roedd un canlyniad pêl-droed yng Nghymru yn sefyll allan y penwythnos diwethaf a hwnnw oedd buddugoliaeth y Seintiau Newydd oddi cartref yn erbyn Falkirk. Enillodd y Seintiau o gôl i ddim yn rownd gynderfynol Tlws Ymddiriedolaeth yr SPFL. Yn y gystadleuaeth hon mae timau sydd yn chwarae o dan y brif gynghrair yn yr Alban yn ceisio ennill yr hyn arferai fod yn ‘Scottish Challenge Cup’, ond ers 2016 maen nhw wedi gwahodd ychydig o glybiau Uwch Gynghrair Cymru i gymryd rhan. Collodd Cei Co