“Aled Sam a Bethan Scorey sy’n edrych ar gartrefi Cymru drwy’r oesoedd.” Dyna’r disgrifiad o gyfres newydd S4C, Cartrefi Cymru.

Aled Sam… edrych ar gartrefi… swnio’n gyfarwydd?

Mae gan S4C dueddiad o gomisiynu rhaglenni tebyg i’w gilydd. Dw i wedi sôn yn y golofn hon o’r blaen fy mod i’n drysu braidd rhwng Adre a Dan Do. A rŵan, dyma ni unwaith eto, rhaglen sydd, ar yr wyneb o leiaf, yn swnio’n debyg iawn i Dan Do.