Ma’ ’na rywun yn deud c’lwydda wrtha fi.

Dwi bron yn siŵr ’mod i’n gwybod pwy sy’ wrthi, achos mae o’n amlwg, ac mae o’n g’neud synnwyr. Ond dwi ddim isio meddwl am hynna, achos os dw i’n iawn, mae hynna’n feddwl fod Mam yn deud c’lwydda wrtha fi, a ’da ni’n deud gwir wrth ein gilydd bob amser, Mam a fi.