Darllenais yr erthyglau am adferiad Cadeirlan Notre-Dame gyda brwdfrydedd. Wnes i ymweld â’r Gadeirlan (a oedd yn safle adeiladu ar y pryd) yn ystod ail wythnos Tachwedd a wnes i ganfod tipyn o gyffro ym Mharis wrth i’r gwaith adeiladu ddirwyn i ben. O weld y lluniau o du fewn y Gadeirlan, mae’r adferiad yn drawiadol ac ni welais olion o’r tân ofnadwy yn unman.