Am flynyddoedd bu Twitter – X erbyn hyn – yn brif ffynhonnell ar gyfer newyddion pêl-droed. Mae bob clwb a phob gwasanaeth newyddion wedi trydar yn rheolaidd, yn ogystal â phersonoliaethau o’r gêm. Mae’r chwaraewyr, rheolwyr, ac aelodau bwrdd wedi defnyddio’r platfform i gyrraedd cannoedd, miloedd a miliynau o bobl.