Fe fydd Cymru yn cychwyn eu cyfres o Gemau’r Hydref yn y Stadiwm Cenedlaethol bnawn Sul. Seimon Williams sy’n edrych ar y gobeithion, ac yn trafod y sgandal ddiweddara’ i siglo’r Undeb Rygbi…
Y bwriad gwreiddiol ar gyfer y golofn hon oedd edrych ymlaen at gemau Hydref tîm cenedlaethol y dynion. Ond – cyn hynny, ac yn gwbl anochel – mae yna gynllwynio strwythurol a chawlach o gamdriniaeth honedig i ddargyfeirio’r sylw oddi wrth faterion ar y cae.
Nos Iau ddiwethaf, torrwyd stori gan y Daily Telegraph oedd yn boenus o gyfarwydd i’r sawl ohonom sydd wedi dilyn helyntion Undeb Rygbi Cymru dros y blynyddoedd diwethaf. Ar ddechrau 2023, y stori a fu’n bennaf gyfrifol am ymddiswyddiad y Prif Weithredwr, ymchwiliadau di-ri ac ail-strwythuro pellgyrhaeddol oedd honno yn ymwneud â chamdriniaeth o fenywod oedd yn gweithio o fewn yr Undeb. Elfen bwysig o’r stori ehangach oedd y diffyg parch a roddwyd i dîm cenedlaethol y menywod. Ac, unwaith eto, triniaeth yr Undeb o chwaraewyr gorau gêm y menywod sydd dan y chwyddwydr.
Un o ddeilliannau’r ymchwiliadau llynedd oedd uwchraddio’r sylw a’r buddsoddiad yn y gêm i ferched, gan greu dau dîm rhanbarthol newydd, a gosod mwy o chwaraewyr ar gytundebau proffesiynol. Y disgwyl – a’r gobaith – oedd y byddai hyn yn gwthio’r tîm i’r haen nesaf. Nid hynny ddigwyddodd, a mawr bu’r dyfalu o ran y rhesymau dros hynny.
Dros yr haf, daeth nifer fawr o gytundebau’r chwaraewyr i ben. Cynigiwyd estyniad o ddeufis iddynt i’w cynnal tan ar ôl cystadleuaeth y WXV dros yr hydref, ond ateb dros dro oedd hynny. Nid oedd yr Undeb a’r chwaraewyr yn cyd-weld ar nifer o faterion, gan gynnwys tâl, polisïau mamolaeth, a’r ddarpariaeth o gyfarpar addas. Ni fyddai’r Undeb, chwaith, yn talu costau teithio i chwaraewyr tu allan i’r brif garfan ond fyddai’n teithio fel rhan o’r garfan estynedig. Gofynnodd y chwaraewyr i’r WRA – sef cymdeithas sy’n gweithio er budd chwaraewyr proffesiynol ar draws Prydain – i’w cynrychioli. Er hynny, roedd cymeriadau blaenllaw – gan gynnwys yr hyfforddwr Ioan Cunningham – yn rhoi pwysau ar chwaraewyr unigol i arwyddo cytundebau oedd, yn eu barn hwy, yn ddiffygiol, gan arwain rhai i deimlo’n ‘emosiynol dost’ ac fel dioddefwyr o fwlio.
Canlyniad hyn oll oedd dirywiad pellach yn y berthynas. Ar 2 Awst, mynnodd yr Undeb bod y chwaraewyr yn mynychu cyfarfod gydag uwch-swyddogion, a hynny heb gynrychiolwyr y WRA. Gwrthododd y chwaraewyr. Ymateb honedig yr Undeb – ar alwad Zoom ac mewn e-bost gan y Cyfarwyddwr Gweithredol Rygbi Nigel Walker – oedd bygwth. Os na fyddai’r chwaraewyr oll yn arwyddo’u cytundebau o fewn tair awr, mi fyddai’r Undeb yn canslo gemau paratoi yn erbyn Seland Newydd, yr Alban ac Awstralia, tynnu’r tîm cenedlaethol yn ôl o gystadleuaeth WXV, ac felly’n ildio’u lle yng Nghwpan Rygbi’r Byd yn Lloegr flwyddyn nesaf. Daeth e-bost arall gan reolwr y tîm, Hannah John, yn gohirio sesiynau ymarfer.
“We are not bluffing,” oedd geiriau Nigel Walker i’r tîm, yn ôl yr adroddiad papur newydd. Adlais anffodus o’i eiriau – am ddal traed y clybiau proffesiynol i’r tân – yn ystod anghydfod tebyg gyda thîm y dynion ddeunaw mis ynghynt. Ac yn union fel y cyfnod hwnnw, roedd y chwaraewyr yn bygwth streicio.
Yn y pen draw, llwyddodd y chwaraewyr i ddal clust aelod neu ddau o’r Bwrdd, ac fe gamodd y Prif Weithredwr, Abi Tierney, i mewn i ddatrys y ffrae. Mi fyddai’r garfan estynedig yn derbyn tâl, daeth 37 o gytundebau newydd, ac mi fyddai ymchwiliad mewnol yn cychwyn, ac ymchwiliad allanol arall eto fyth i’r holl ffrwgwd.
Penderfyniad yr ymchwiliad mewnol oedd bod yna ddiffygion ym mhrosesau’r Undeb, bod y bygythiad tair awr yn annerbyniol, ond nad oedd unrhyw awgrym bod rhywiaeth ar waith. Anodd yw penderfynu p’un ai bod hynny’n well neu’n waeth – nid oes eithrio, fel hyn mae’r Undeb yn trin pawb?
Ble mae’r strategaeth?
Mawr fu’r aros am strategaeth newydd yr Undeb ers yr haf. Addawyd, bryd hynny, y byddai cnawd ar esgyrn yr amcanion rhyddhawyd yn ystod yr haf erbyn hyn. Bydd Cyfarfod Cyffredinol diwedd y mis, a’r disgwyl yw y bydd rhywbeth i’w drafod yno. Yn wir, mae’n bosib y bydd rhannau o’r strategaeth yn dechrau cyrraedd clustiau’r cyhoedd dros yr wythnos nesaf, yn dilyn y cyhoeddiad y bydd £26m yn mynd i gêm y menywod dros y bum mlynedd nesaf.
Un peth na fydd ar yr agenda, yn ôl y si, yw cynghrair Eingl-Gymreig i’r dynion. Os yw’r straeon yn gywir, daeth cyfle i gael lle i ddau glwb, ond pedwar oedd cais yr Undeb. Adlais arall o’r gorffennol, y tro hwn penderfyniad yr un Undeb i wrthod pum lle mewn cynghrair o’r fath gan fynnu deg yn 1999. Ychydig iawn sy’n newid ar Stryd Westgate, ymddengys, er gwaetha’r wynebau newydd a’r ail-strwythuro diddiwedd.
Ni fydd, chwaith, yr Undeb yn cymryd cyfran 20% o bob un o’r pedwar clwb proffesiynol. Ond mae yna ‘gyfran euraid’ dal dan drafodaeth, fyddai’n rhoi’r hawl i’r Undeb botsian gyda’r clybiau, o fynnu cyfnodau gorffwys, ym mha safle y caiff chwaraewr ei ddewis, a hyd yn oed i ba glwb y caiff chwarae.
Gobaith i’r Hydref?
Prif hyfforddwr tîm cenedlaethol y dynion – sef, ar hyn o bryd, Warren Gatland – fyddai’n ennill yr hawl i ymyrryd. Annoeth, efallai, o ystyried nad yw Gatland ei hun yn gwybod os yw Ben Thomas yn faswr neu’n ganolwr, ac a yw Mason Grady yn rhif 12 neu 13 neu’n asgellwr.
Bydd gemau’r Hydref yn cychwyn dydd Sul wrth i Gymru wynebu Ffiji. Ac os bu tîm erioed sy’n chwarae fel nad oes rhifau ar eu cefnau o gwbl, Ffiji yw’r rheiny. Mae’r blaenwyr llawn gyflymed â’r olwyr, a’r olwyr mor bwerus â’r blaenwyr.
Peryglus byddai darllen gormod i mewn i’r cweir a ddioddefwyd gan y gwŷr o’r Môr Tawel yn yr Alban dros y penwythnos. Wyth cais i dair oedd hi, a 57-17, gyda’r tîm cartref yn cychwyn ar dân, ac yna’n ymestyn yn glir yn hwyr ar ôl i’r ymwelwyr ddod nôl i’r gêm ar ddechrau’r ail hanner. Pedwar cais i Darcy Graham ar ei ymddangosiad cyntaf ar y lefel rhyngwladol ers dros flwyddyn.
Roedd y gêm yn cwympo y tu fas i’r ffenest ryngwladol swyddogol, a doedd dim rheidrwydd felly ar glybiau Lloegr a Ffrainc i ryddhau eu Ffijïaid. 21 o’r 23 yn y garfan, felly, yn hanu o dîm Super Rugby Fijian Drua. Y canolwr o Racing 92 Inia Tabuavou a’r asgellwr Vuate Karawaleva o’r Waratahs oedd yr unig ddau nad sy’n chwarae eu rygbi yn Ffiji. Yn wir, cymaint yw effaith rheolau argaeledd Rygbi’r Byd ar wledydd fel Ffiji mai dim ond dau o’r tîm wynebodd Cymru yn y clasur hwnnw yng Nghwpan y Byd y llynedd – y mewnwr Frank Lomani a’r ail reng Isoa Nasilasila – gychwynnodd yng Nghaeredin.
Bydd deg o gewri’r wlad yn dychwelyd o’u clybiau’r wythnos hon, ac mi fydd yr her i Gymru yn sylweddol uwch o’u herwydd. Mae’r trichwarterwyr Josua Tuisova, Waisale Nayacalevu a Semi Radradra ymysg y gorau yn y gêm. Os nag yw hynny’n ddigon i godi ofn, mae’r asgellwr Jiuta Wainiqolo wedi bod yn sgorio o bellter, ac yn gyson, i Toulon yn Ffrainc. Bydd rheng flaen newydd, grymus yn dychwelyd ar ffurf Eroni Mawi, Luke Tagi a Sam Matavesi i sefydlogi’r sgrym. Yn y pump ôl, bydd Temo Mayanavanua a Albert Tuisue yn gyfarwydd i’r sawl yng ngharfan Cymru sydd dal yno ers yr ornest bythgofiadwy hwnnw y llynedd.
Pwysau ar Gatland
Bydd dewis Gatland ar gyfer y gêm gyntaf yn hynod o ddiddorol. Bu’n awyddus iawn i ddweud ei fod yn edrych i’r dyfodol wrth ddatblygu tîm ifanc, newydd, ond mae yna nifer o hen bennau yn dychwelyd. O’r to ifanc, mae yna faint a gwytnwch corfforol ymhlith yr olwyr, ac awgrym o arddull wahanol wrth drafod ganol cae.
Ond mae yna bwysau ar y prif hyfforddwr. Nid yw wedi arfer ar golli, ac eto nid oes gan Gymru’r un fuddugoliaeth yn y flwyddyn galendr hon. Naw colled o’r bron. De Affrica – criw sydd ddim yn arddangos yr un mymryn o awydd i adeiladu tîm newydd ac a fydd ar eu cryfaf – fydd gêm olaf y gyfres ar 23 Tachwedd. Ychydig iawn o bobl sy’n gweld buddugoliaeth yn y gêm honno – yn wir, mae Archie Griffin, prop pen tynn addawol Cymru, wedi nodi’n glir mae dwy fuddugoliaeth yw’r nod.
Collwyd y gyfres yn Awstralia dros yr haf, a nhw fydd y gwrthwynebwyr yn yr ail gêm. Bydd disgwyl ychydig o hud a lledrith gan yr asgellwr Harry Potter (sori!), a thipyn o gyffro i weld beth gall Joseph-Aukuso Suaalii – un o wir sêr yr NRL – ddod o gêm y Gynghrair i’r gêm pymtheg dyn. Er gwaetha dychweliad rhai o chwaraewyr dramor y Walabis – Will Skelton a Samu Kerevi yn eu plith – bydd y Cymry yn obeithiol o ad-dalu’r pwyth.
Ond, yn gyntaf, bydd angen canfod llwybr heibio Ffiji. Fe enillon nhw Bencampwriaeth y Môr Tawel yn hawdd ychydig fisoedd yn ôl, ac mae hanes diweddar yr ornest yn ddigon i beri gofid. Cymru sydd wedi ennill pob un o’r chwe ornest ddiwethaf rhwng y ddwy wlad, ond ni fu mwy na dwy sgôr ynddi yn y pump diwethaf.
Mae yna dîm profiadol, corfforol a chyflym ar gael i Gatland o blith y garfan sydd ganddo. Bydd angen i Gymru fod ar eu cryfaf, ac ar eu gorau, ddydd Sul.