Soniais yr wythnos diwethaf fy mod yn mynd i Gdańsk – a fy mod yn edrych ymlaen at brofi cwrw Gwlad Pwyl.

Ond plîs peidiwch â meddwl fy mod yn gaeth i’r ddiod feddwol. I mi, mae ychydig o beintiau yn ddigon. Mwy na hynny, a’r unig le dwi am fod yw fy ngwely. Ansawdd, nid nifer, yw’r nod.

Hediad o Fryste i Gdańsk mewn dwy awr (£100 yno ac yn ôl) – a bws i’r dref (taith hir ac anghyfforddus. Defnyddiwch y trên).