Nid wyf yn gwybod am unrhyw grefydd sy’n hyrwyddo dicter neu sy’n annog ei dilynwyr i ymddwyn yn genfigennus neu’n farus – er bod cyfalafiaeth a’r farchnad rydd yn eich annog i wneud elw!

Er hyn, mae dicter yn emosiwn cyffredin ym mywyd pob unigolyn. Er nad yw crefyddau’n annog dicter fel ymateb safonol, a oes amseroedd priodol i deimlo dicter, neu a all dicter fod yn ddefnyddiol mewn cyd-destunau penodol?