Un o dîm Cymru yn WOMEX ym Manceinion yn ddiweddar oedd Dionne Bennett – cantores o Grangetown yng Nghaerdydd sydd â pherl o lais.
Mae hi wedi bod yn perfformio’n fyw ers ei bod hi’n 14 oed, ac mae ei llais yn gallu benthyg ei hun i arddulliau rhythm&blues, jazz, soul, reggae, ffync a roc. Mae wedi canu gyda grwpiau roc amlwg o Gymru fel The Peth (grŵp Rhys Ifans), Super Furry Animals a The Earth a chyhoeddi senglau gyda’r pianydd jazz Jason Rebello a’r sacsoffonydd Tim Garland. Hi sy’n canu ar sengl boblogaidd Sywel Nyw, ‘Amser Parti’.
Yn ystod y pandemig sefydlodd gwmni budd cymunedol o’r enw Tân, sy’n gweithio ar ran artistiaid cerddorol Du Cymru. Ei chenhadaeth bersonol gyda’i chwmni, meddai â gwên fawr, yw “dad-goloneiddio Cymru”.
“Mae Tân yma i greu isadeiledd ar gyfer artist fel fi,” eglura. “Does dim pwynt i mi gyhoeddi cerddoriaeth yng Nghymru os nad yw Cymru yn gwybod sut i ymdrin â mi fel artist. Felly, dw i eisiau dod â phobol i mewn – a dyna pam rydw i yma yn WOMEX – pobol sy’n gwybod mwy a all fy nghefnogi.
“Hefyd, pan fydda i yn cyhoeddi fy ngherddoriaeth i, dw i eisiau bod yn rhan o’r Gymru fodern newydd yma, un sy’n llawn lliw ac egni… Os nad oes gennym ni’r isadeiledd yna, rydyn ni bob amser yn mynd i fod ar ei hôl hi o gymharu ag artistiaid Cymraeg eraill ac ar ei hôl hi ar raddfa fyd-eang.”
Elfen arall o waith Tân yw sicrhau llwyfannau da i artistiaid Du a rhoi hwb i’w gyrfa, a threfnu iddyn nhw rannu llwyfan gydag artistiaid o broffil uwch.
Mae “dad-goloneiddio” ei chenedl yn bwysig iawn iddi fel artist a cherddor, ac fel perchennog busnes ac addysgwr. Hi yw cadeirydd grŵp cynghori amrywiaeth y Coleg Cerdd a Drama yng Nghaerdydd.
“Dw i’n gweld nad ydyn ni’n cael ein cynrychioli ym mhob haen o’r celfyddydau,” meddai Dionne Bennett. “Dy’n nhw ddim yn siarad amdanon ni… wel, maen nhw’n siarad amdanon ni, ond yn siarad gyda ni yn hytrach na’n cynnwys ni ym mhob rhan o’r sgwrs. Felly dw i am inni fod yn rhan o’r sgwrs honno a chael ein hystyried ym mhob cam o’r ffordd.
“Gwyn yw’r gymdeithas r’yn ni’n rhan ohoni, yn bennaf, o ran y celfyddydau. Dw i am weld rhagor o ferched, a rhagor o ferched Du mewn swyddi o bwys. Bod mwy o swyddi o bwys yn cael eu rhoi i bobol o Liw sydd yn rhan o wead Cymru, yn rhan o’r gymdeithas Gymreig sydd hefyd yn rhoi gwerth i’r gymdeithas honno.”
Ym mis Ebrill enillodd Dionne wobr yn y Senedd am ei gwaith yn hybu Cysylltiadau Hil a Chynhwysiant Du mewn Cerddoriaeth. Mae hi’n credu fod y Llywodraeth ym Mae Caerdydd yn gefnogol i’w hymdrechion i wella pethau i artistiaid cerddorol du ac o liw.
“Ry’n ni’n ffodus bod gyda ni Lywodraeth a gyflwynodd y Cynllun Gwrth-Hiliaeth, ac rydyn ni’n edrych ar gyflawni’r canllawiau hynny,” meddai. “Ry’n ni’n defnyddio’r hyn a osodwyd gan y Llywodraeth i sicrhau ein bod yn cael y gynrychiolaeth honno. Felly, ydyn, maen nhw’n gwrando.”
Roedd Dionne Bennett yn cyhoeddi ei sengl newydd ‘Bones’ yn gynharach yr wythnos hon, gan y Black Music Workshop, ei chywaith hi a’r cynhyrchydd Krissy Jenkins. Mae hi’n bwriadu cyhoeddi albwm ddwyieithog, Cymraeg a Saesneg, y flwyddyn nesaf, ar y cyd â’i phartner sgrifennu, Jon Goode.
“Mi wnaethon ni gwrdd â’n gilydd trwy gerddoriaeth – ac mi wnaethon ni greu’r sŵn jazz modern yma, sydd â naws Gymreig wedi’i gwreiddio ynddo.”
Gwisg Gymreig i swyno’r byd
Hyd yn oed mewn lle mor amryliw â ffair fasnach WOMEX, roedd un artist o Gymru yn hoelio sylw pawb – oherwydd ei gwisg unigryw.
Yng Nghaerdydd mae TeiFi – y cerddor Teifi Emerald – yn byw ond mae hi’n wreiddiol o bentref Draethen yng Nghaerffili, a’i theulu o ogledd Sir Benfro a Chydweli. Bu’n rhaid ei holi hi am ei gwisg drawiadol – yr het Gymreig mewn les coch, y clogyn brethyn cartref a’r sgert draddodiadol Gymreig.
“Mi wnaeth fy mam wneud hwn yn y 1960au,” meddai am y clogyn, “ac mi wnes i wneud yr het yma. Mae gen i gynlluniau i wneud rhagor o hetiau Cymreig diddorol – jyst ar gyfer perfformio.”
Sut fath o gerddoriaeth mae hi’n ei chreu? “Dw i’n canu yn solo fel TeiFi, a dw i’n canu caneuon Cymraeg a Saesneg am fyd natur, am y môr, a phlanhigion, a dw i hefyd yn gwneud ychydig bach o soul a hip-hop dwyieithog.”
Cafodd hithau elwa ar nawdd sefydliad Tŷ Cerdd a Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru i ddod i WOMEX – un o ddigwyddiadau mwyaf y diwydiant cerddoriaeth byd. “Dw i’n gwneud blend eitha’ unigol – tipyn bach o folk, tamed bach o pop, tamed bach o bethe gwahanol,” eglura. “Mae WOMEX yn teimlo fel rhywle gyda chymysgedd anhygoel o bobol o ddiwylliannau gwahanol. Dw i wir yn angerddol am yr iaith Gymraeg ac ieithoedd lleiafrifol, a dw i wedi gweithio yn y gorffennol gydag artistiaid yn siarad Bengali.”
Dywedodd fod ymateb pobol wedi bod yn “wych” a’u bod yn chwilfrydig ynglŷn â’r ffaith ei bod hi’n creu cerddoriaeth yn y Gymraeg. “Mae pawb yn bles iawn clywed eich bod chi’n sgrifennu’n Gymraeg – dyna’r peth cyntaf [maen nhw’n ei ddweud],” meddai. “Mae pobol yn teimlo’n gynnes iawn am y ffaith eich bod chi’n ei siarad hi.”
Mae ar fin rhyddhau sengl o’r enw ‘Llif’, ac fe fydd hi’n cyhoeddi ei halbwm gyntaf yn 2025, meddai. “Mae gen i bum iaith ar yr albwm. Mae gen i artistiaid gwadd sydd yn rapio yn Saesneg, Cymraeg, Pwyleg, Punjabi a Malay. A dw i’n rapio yn Gymraeg a Saesneg.”