Mi welais i ti ddoe.
Yn Tesco oeddwn i. Wedi piciad yno ar ôl gweithio’n hwyr, fy rhestr siopa’n gywilyddus o ddiflas – bara; llaeth; menyn; ceirch. Fel bwyd o’r hen ddyddiau. A dyna le roeddat ti, hefyd o’r hen ddyddiau, yn wahanol ond union yr un fath hefyd.