Rydw i wedi bod yn meddwl lot am ddinas yn yr Iseldiroedd yr wythnos yma, sef ‘s-Hertogenbosch. Ar yr wyneb, dydy’r lle ddim yn ddiddorol iawn. Mae’n ddiwydiannol, ymarferol ac i ddweud y gwir does yna ddim llawer i ddenu twristiaid. Mae yna dîm pêl-droed, FC Den Bosch, ond does yna ddim llawer i ddweud amdanyn nhw ychwaith. Mae’n ugain mlynedd ers iddyn nhw chwarae yn Uwch Gynghrair yr Iseldiroedd.