Annwyl Rhian,

Dw i’n 67 oed a wnes i golli fy ngwraig ddwy flynedd yn ôl. Ro’n i’n dechrau dod i arfer efo’r drefn newydd ond, bythefnos yn ôl, roedd yn rhaid i fi roi fy nghi, Twm, i gysgu. Roedd o wedi bod yn ffrind ffyddlon i fi ers 15 mlynedd ac wedi fy nghynnal yn ystod y cyfnod tywyll ar ôl i fi golli fy ngwraig. Dw i’n teimlo ar goll hebddo ac wedi torri fy nghalon.