Cefais fy synnu i weld colofn Huw Onllwyn [‘Hamas yw’r broblem’, Golwg 12/9/24] yn amddiffyn gweithredoedd Israel yn Gaza dros y flwyddyn ddiwethaf. Cefais fy synnu eilwaith i’w weld yn ymateb i lythyr gan Steve Eaves ac eraill [‘Beth yw eich barn am arweinwyr Hamas a’r hijab?’, Golwg 26/9/24] efo perfformiad annidwyll a digywilydd o fod yn arwr dros fenywod y Dwyrain Canol (heblaw am y menywod sydd ar hyn o bryd yn cael eu bomio’n ddyddiol gan Israel, wrth gwrs