Rwyf ar fy ffordd i Gdansk, y dref hynafol yng ngogledd gwlad Pwyl lle gychwynnodd yr Ail Ryfel Byd, ar 1 Medi 1939.

Er yn le hynafol, fe’i bomiwyd yn drwm yn ystod y rhyfel, gan adael dim ond 10% o’r adeiladau yno’n sefyll. Yn ffodus i drigolion Gdansk, penderfynwyd ail-greu hen adeiladau prydferth y ddinas. Yn wahanol i Abertawe (a ail-adeiladwyd gan ddefnyddio concrit a Lego) mae’n ddinas sy’n denu miloedd ar filoedd o dwristiaid i grwydro’r strydoedd hardd.