Sgwrs ar risiau capel a daniodd y syniad am ddrama newydd yn trafod pwy sydd â’r hawl dros ein diwylliant gwerin…
Ledi’r Wyrcws yw drama gyntaf Jerry Hunter, sydd yn nofelydd, yn awdur ac yn ysgolhaig adnabyddus, ac mae hi wedi ei lleoli mewn tloty yn 1955.
Yn y ddrama mae cymeriad o’r enw Lady Ann Parry Morgan yn ymweld â hen wreigan sydd yn byw yn y tloty ers dechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf, er mwyn ei recordio hi’n canu hen ganeuon gwerin.