Teithiodd Fy Enw i yw Rachel Corrie (Theatr Genedlaethol Cymru) i ganolfannau Galeri yng Nghaernarfon, Sherman yng Nghaerdydd, a’r Egin yng Nghaerfyrddin rhwng 16 a 19 Hydref. Addasiad Cymraeg ydyw gan Menna Elfyn o My Name is Rachel Corrie, a gafodd ei pherfformio gyntaf yn y Royal Court, Llundain yn 2005. Mae hi’n seiliedig ar ddyddiaduron ac e-byst ymgyrchydd o Washington a gafodd ei lladd ar lain Gaza yn 2003. Roedd Rachel Corrie wedi ymuno ag ymgyrch a oedd yn amddiffyn cartrefi rhag cael eu dymchwel, ond cafodd ei lladd gan un o deirw dur byddin Israel. Hannah Daniel oedd yn actio Rachel. Y cyfarwyddwr oedd Steffan Donnelly, cynllunydd y set oedd Maariyah Sharjil, y cynllunydd goleuo oedd Elanor Higgins a’r cynllunydd sain oedd y cerddor Palesteinaidd o Lundain, Kareem Samara. Bu Jihan Rizqallah, rheolwr llwyfan o Balestina, hefyd yn rhan o’r criw.
YR ADOLYGWYR
Marika Fusser, Rhostryfan ger Caernarfon. Ieithydd, a bu’n aelod o gwmni drama cymunedol yn ystod ei hieuenctid.
Ness Owen, Ynys Môn. Bardd a darlithydd.
Meirion Jones, Llanfairpwllgwyngyll. Wedi ymddeol o fod yn gyfreithiwr a chynghorydd sir. Yn gyn-gyfarwyddwyr cwmni theatr y Frân Wen.
(Bu’r tri yn gwylio yn Galeri, Caernarfon ar ddyddiad cyntaf y daith)
Wedi mwynhau?
MF: Wel, dim drama i’w mwynhau oedd hi, ond mi greodd dipyn o argraff.
NO: Fe gafodd hi effaith bwerus arna i. Mae’n rhaid i bethau newid.
MJ: Do, os mwynhau ydi cael blas ar brofiad. Nid mwynhau ‘pleser’ ydi’r ddrama hon ond cael profiad – gwneud i rywun feddwl ac asesu ei deimladau, agweddau ac egwyddorion ei hun. Roedd y ferch ifanc, Rachel, wedi mynd i Gaza yn 2003 i gefnogi’r Palesteiniaid oedd o dan fygythiad yn eu cartrefi nhw’u hunain, a’r cartrefi hynny yn cael eu dymchwel. Roedd yn dangos ei hochor a ddim yn ceisio cuddio hynny.
Beth wnaeth i chi deimlo’n emosiynol?
MF: Doedd y ddrama ddim yn pregethu, ond yn dangos ambell i gipolwg o fywyd ar Lain Gaza yn 2003. Pethau fel y teulu bach oedd Rachel yn aros efo nhw ond yn defnyddio stafelloedd cefn eu tŷ oherwydd bod gormod o siawns o gael eich taro gan fwled yn y stafelloedd blaen. Dyna fel oedd bywyd cyn y rhyfel mawr sydd yn Gaza rŵan, ac fel mae’n dal i fod ar y Lan Orllewinol mae’n debyg. Mae dychmygu byw fel yna’n ddigon i wneud rhywun yn emosiynol, tydi?
NO: Mae taith Rachel yn mynd â ni trwy gymysgedd o emosiynau: hiwmor, gobaith, tristwch ac anghyfiawnder. Dw i’n meddwl bod sylweddoliad Rachel o’r ffaith y gall hi ddewis gadael Palestina ar unrhyw adeg yn wahanol i deuluoedd lle’r oedd hi’n aros, yn bwynt ingol iawn.
MJ: Mae’r stori ei hun yn creu teimladau cryf emosiynol ynof i (o gofio hanes hir y cefndir) ac roedd nifer o enghreifftiau yn codi o’r ddrama fel dinistrio ffynhonnau heb reswm a chyfleusterau byw plant y teulu Palesteinaidd.
Sut oeddech chi’n teimlo ar y diwedd?
MF: Yn drist, ond hefyd yn falch o bobol fel Rachel Corrie sy’n dal i fynd i Balestina a llefydd eraill i drio gwella pethau dipyn bach i’r bobol leol. Bod yna anghyfiawnder, ond hefyd bod yna bobol sy’n ei herio fo.
NO: Roeddwn i’n teimlo, fel y dychmygaf yr oedd pawb yn y theatr yn ei deimlo, y gallai Rachel fod yn unrhyw un o’n merched neu’n chwiorydd ni, ac y dylen ni barhau i rannu ei stori. Roedd hi’n ferch ifanc oedd yn fodlon camu ymlaen i newid y byd. Er i’r digwyddiadau ddigwydd dros 20 mlynedd yn ôl mae’r anghyfiawnder yn parhau.
MJ: Roeddwn yn syfrdan am rai eiliadau fel gweddill y gynulleidfa. Yna yn rhwystredig ac yn drist – bod Rachel wedi colli ei bywyd yn y ffasiwn ffordd a bod hynny wedi digwydd 20 mlynedd yn ôl a phethau tebyg a gwaeth yn digwydd yn Gaza heddiw.
Oedd y cymeriad yn apelio atoch chi?
MF: Oedd. Mi’r oedd yna dipyn o sôn am bethau dibwys ym mywyd Rachel, ond yr effaith oedd dangos hogan ddigon cyffredin a blêr y gallai’r gynulleidfa uniaethu efo hi.
MJ: Roedd cymeriad Rachel yn apelio. Cawsom hanes syfrdanol ymateb merch ifanc i sefyllfa arbennig. Nid oedd y ddrama yn ceisio dangos dwy ochr i ddadl – roedd yn delio yn onest ag un sefyllfa benodol. Roedd hi’n gallu gwahaniaethu rhwng y bobol Iddewig ac ymddygiad llywodraeth Israel, fel y mannau rheoli (check-points) yn atal gweithwyr Palesteinaidd a’r dinistrio ffynhonnau yn ddi-hid.
Sut berfformiad a gafwyd gan yr actor?
MF: Tipyn o orchest i Hannah Daniel gario’r ddrama i gyd ar ei phen ei hun!
NO: Perfformiad mor deimladwy ac egnïol gan Hannah Daniel.
MJ: Llwyddodd Hannah Daniel i greu awyrgylch a’i gynnal ac i gyflwyno Rachel yn ferch ifanc egnïol a naturiol o gig a gwaed. Rhan o hyn oedd y gallu i wau’r materion cyffredin oedd yn ei bywyd a’r sefyllfa o densiwn anhygoel oedd yn barhaol o’i chwmpas. Mae’r actores yn arbennig wrth gyfleu ei hangerdd yn ateb heriau ei thad am ymddygiad ffyrnig y Palesteiniaid. Ei hymateb oedd – pe baen ni’n byw mewn amgylchiadau tebyg, gydag ymosodiadau ar ein cartrefi gan filwyr a’u tanciau, beth fyddai ein hymateb ni, ond amddiffyn ein cartrefi a’n teuluoedd?
Barn am y set?
MF: Mi weithiodd o i fi. Mi angorodd y stori mewn stafell wely gyffredin (stafell Rachel i ddechrau, ac wedyn y teulu oedd hi’n aros efo nhw). Jyst pobol yn byw gorau gallan nhw.
NO: Ychwanegodd set ystafell wely Rachel yn fawr at deimlad personol y ddrama. Rydan ni’n freintiedig o gael clywed ei meddyliau.
MJ: Roedd yn gynnil efo un gwely mewn ystafell digon llwm – gweithiodd yn iawn i mi.
Barn am y cyfarwyddo?
MF: Effeithiol iawn. A da bod yna Balestiniaid yn rhan o’r tîm cynhyrchu.
NO: Roedd yn gynhyrchiad accessible iawn efo’r is-deitlau yn y Gymraeg a’r Saesneg.
MJ: Cyflwynwyd stori am ferch ifanc digon cyffredin ond yn llawn angerdd. Llwyddwyd i gynnal y ddrama a’r awyrgylch priodol ar ei hyd ac roedden ni wedi ein serio iddi. Felly, llongyfarchiadau.
Unrhyw wendidau?
MF: Ella mai fi sy’n ara’ deg, ond wnes i ddim dal pob dim gafodd ei ddeud. (Ond wedyn, roedd yna is-deitlau.)
VO: Dim.
MJ: Roedd y llefaru yn gyflym iawn ar brydiau ac roeddwn yn colli rhai o’r diweddebau, ond roedd is-deitlau i’w cael a chredaf fod hynny yn goresgyn unrhyw broblem.
Fyddech chi’n argymell pobol i fynd i’w gweld hi, a pham?
MF: Yn bendant. Mae’r ddrama bron yn 20 oed, ond mae’n dal yn amserol iawn.
NO: Byddwn yn bendant yn dweud wrth bawb am fynd i’w weld. Mae’n ddarn syfrdanol o theatr ac roedd clywed geiriau Rachel yn Gymraeg yn ychwanegu dimensiwn arall i’r ddrama hefyd. Roedd gweld taith Rachel o fod yn ferch yn ei harddegau i fod yn ymgyrchydd mewn ardal o ryfel drwy ei llythyrau a’i he-byst ei hun yn brofiad mor gofiadwy.
MJ: Byddwn. Mae hi’n ddrama sydd yn sefyll ar ei thraed ei hun ond hefyd yn berthnasol i heddiw.
Nifer o sêr allan o 5:
MF: 5/5
NO: 5/5
MJ: 5/5
Rhagor o sylwadau?
MJ: Biti mai mewn tri lleoliad yn unig yr oedd modd gweld y ddrama ar ei thaith. Cynhyrchiad y Theatr Genedlaethol yw hwn a byddai’n braf bod mwy o ardaloedd o gwmpas Cymru yn cael y cyfle i brofi’r ddrama arbennig yma.
- Gofynnodd Golwg i’r Theatr Genedlaethol pam nad oedd y cynhyrchiad wedi teithio i ragor o ganolfannau. Mewn ymateb, dywedodd llefarydd: “Ein bwriad trwy lwyfannu’r perfformiadau yma oedd codi ymwybyddiaeth a sbarduno sgyrsiau yn y Gymraeg am yr argyfwng dyngarol ym Mhalestina. Felly roedd y daith gyfyngedig yn ychwanegiad hwyr i’n rhaglen am ein bod ni eisiau ymateb i ddigwyddiadau cyfredol, ac felly yn gost ychwanegol i’r hyn oedd wedi ei gynllunio’n wreiddiol.”