Mis yn unig sydd i fynd nes i’r Ceidwadwyr gyhoeddi enw eu harweinydd newydd. Dydw i ddim am geisio darogan pwy fydd yn fuddugol, ac maen yna ddau reswm da dros beidio gwneud. Yn gyntaf, mae’n ymddangos fwyfwy tebygol fod pwy bynnag fydd yn ennill am fynd â’r Ceidwadwyr hyd yn oed ymhellach i’r dde. Yn ail, fel gweddill y wlad, dwi ddim efo rhyw lawer o ddiddordeb.