Peth anodd iawn ydi cadw cyfrinach, yn fwy felly pan fod rhywun yn trio cadw’r gyfrinach o’i wraig. Felly’r unig ffordd oedd datgan ein bod am gael noson allan a mynd i gig arbennig, ond nad oeddwn am ddweud wrth Nêst pwy oedd yr artist roeddem am weld. Rhaid oedd cyfaddef ein bod am fynd draw am Lerpwl ac roedd angen mymryn o ymgynghoriad ynglŷn â gwisg addas. Ond fel arall, llwyddais i gadw’r artist yn ddirgel tan y munud olaf.
Nid fi yw hwn
Er mwyn gadael sylw, mae angen mewngofnodi neu ymuno â’r safle.