Roedd yn argoelus iawn gweld mewn pôl diweddar fod bellach bron traean o bobl Cymru am ddiddymu’r Senedd, ond hwyrach fod yna resymau digon cadarn tu ôl i hynny. Fel y dywedodd Dafydd Wigley wrth Golwg360, go brin fod y ffaith bod pob llywodraeth erioed yng Nghymru wedi’i harwain gan yr un blaid fawr o help. Mae’n gwneud i bobl deimlo nad oes pwynt pleidleisio.