Roeddwn i’n hoff iawn o’r BT Champions League Goals Show. Roedd yn ffordd wych o wylio bob gêm ar draws Ewrop heb fethu’r un gôl. Roedd James Richardson yn cyflwyno, yng nghwmni tîm o newyddiadurwyr, yn cynnwys James Horncastle, Julien Laurens a Raphael Honigstein. Dyma bobl sydd yn arbenigwyr ar y cynghreiriau’r cyfandirol, ac sydd yn gallu siarad yn fanwl am chwaraewyr, rheolwyr, tactegau a’r diwylliant Ewropeaidd. Roedd hi’n sioe berffaith.