Mae cynghorwyr Llafur dinas Abertawe i’w llongyfarch am gefnogi’r galwadau cynyddol am ddatganoli’r cyfrifoldeb tros Stad y Goron yng Nghymru i Fae Caerdydd.

Y gobaith nawr yw y bydd mwy o gynghorau sir Llafur yn pwyso ar lywodraethau’r blaid yn Llundain a Chaerdydd i dynnu bys allan a gweithredu.

Mae Cyngor Llafur Abertawe eisiau gweld cyfoeth Stad y Goron yn cael ei drosglwyddo i ofal Llywodraeth Cymru “fel mater o frys”, a hynny er mwyn “cefnogi anghenion cymdeithasol y Cymry”.