Rhaid i mi gyfaddef nad ydw erioed wedi bod yn ryw ffan mawr o fandiau pres. Felly nid oeddwn yn cael fy nhynnu’n naturiol at raglen radio o’r enw Byd y Bandiau Pres.

Ond dyna sylweddoli wedyn mai Owain Gruffudd Roberts oedd yn cyflwyno’r rhaglen, a chofio mai fo sydd yn bennaf gyfrifol am y mymryn lleiaf o ddiddordeb oedd gen i yn y maes. Do, mae o wedi gwneud cryn dipyn i godi proffil a phoblogrwydd cerddoriaeth bandiau pres trwy ei waith gyda Band Pres Llareggub ac amrywiol brosiectau eraill dros y degawd diwethaf. Hynny yw, ehangu apêl y genre y tu hwnt i’w chadarnleoedd traddodiadol, achos roedd hi eisoes yn ganolog iawn i sawl cymdeithas a chymuned cyn hynny wrth gwrs.

Ac wrth wrando ar bennod gyntaf Byd y Bandiau Pres, roeddwn i’n dechrau meddwl fy mod wedi gwneud camgymeriad mawr, gan mai uchafbwyntiau’r cystadlu o benwythnos agoriadol yr Eisteddfod eleni oedd y rhaglen gyfan. Nid y gerddoriaeth crossover canol y ffordd yr wyf i’n gyfarwydd â hi, ond acshiwal bandiau pres go-iawn!

Ond, buan iawn y gwnes i ddeall mai cystadlaethau adloniant oedden nhw, gyda’r bandiau i gyd yn perfformio detholiad o hunan ddewisiadau. Yn hytrach felly na chystadleuaeth bandiau pres mwy traddodiadol ble mae darn gosod yn cael ei feirniadu’n ddall. Ac roedd y gystadleuaeth yn union hynny chwarae teg, yn eithaf adloniannol, gyda sawl band yn chwarae fersiynau o ganeuon adnabyddus.

Ond mae yna un peth na wnaiff rywun lleyg fel fi fyth ei ddeall am fyd y bandiau pres. Sut mae’r adrannau gwahanol yma’n gweithio? Efallai y gellid fod wedi gwneud mwy o ymdrech i egluro hynny?

Do, cefais fy siomi ar yr ochr orau, i raddau, gyda’r cystadlu eisteddfodol ond roeddwn i’n sicr ar dir mwy cyfforddus gydag ail a thrydedd pennod y gyfres. Tir mwy cyfoes a phoblogaidd, yn debycach os liciwch chi i Fand Pres Llareggub.

Yr ail bennod oedd yr orau hyd yma, rhaglen yn canolbwyntio ar ŵyl gerddoriaeth stryd Haizetara a gynhaliwyd yn Amorebieta-​Etxano yng Ngwlad y Basg yn gynharach yr haf hwn. Ac fe wnaeth y bennod yma godi awydd mynd i’r ŵyl arna’i. Mi fedra i fy ngweld i rŵan, pintxos yn y naill law, seidr Basgeg yn y llall a rhythmau bandiau pres mwyaf ffynci’r byd yn llenwi’r strydoedd, fy nghlustiau a fy nghalon.

Yn fy naïfrwydd, roeddwn i wastad wedi meddwl am fandiau pres fel rhywbeth oedd yn perthyn i rai pobl a rhai llefydd penodol, y cymunedau ôl-ddiwydiannol yma yng Nghymru, ac ym mhellach na hynny efallai, llefydd fel New Orleans. Ond agorodd y rhaglen yma fy llygaid a fy nghlustiau, mae cerddoriaeth bandiau pres yn fyd eang. Fe chwaraeodd Owain gerddoriaeth gan dri ar ddeg o fandiau yn yr awr o raglen, ac fe gyfrais i ddeg o wledydd gwahanol a phum cyfandir! Cerddoriaeth byd go-iawn.

Ar BBC Sounds y bûm i’n gwrando ac un fantais o wneud hynny yw eich bod chi’n cael rhestr ddefnyddiol iawn o enwau’r bandiau a’r caneuon. Sydd, wrth gwrs, yn eich galluogi i fynd i chwilio am fwy o’u cerddoriaeth wedyn. Felly dyna lle dw i wedi bod yr wythnos hon, yn gyrru i gyfeiliant Eyo’nlé Brass Band o orllewin Affrica, yn golchi’r llestri gyda’r Tokyo Brass Style ac yn dawnsio yn y gegin i’r Tenampa Brass Band o Fecsico.

I ffwrdd â fi ar fy ngwyliau i Ffrainc rŵan, ac efallai yr af i chwilio am yr Hot Universal Groov’ Squad tra dw i yno!