Och a gwae!

Rwyf adref o fy ngwyliau. O fyd ffantasi pythefnos yn yr haul (prydau bwyd mewn bwytai braf, gwin bob nos, gorwedd ar y traeth ac ati) i fywyd go-iawn (trwsio’r tŷ bach, golchi llestri – a styc tu fewn oherwydd y glaw…)

O’r herwydd, dwi mewn cyflwr blin ac yn barod i gwyno a beirniadu.

Fy nharged yr wythnos hon yw’r tatŵs twp mae gymaint o bobl yn eu gwisgo – yma ac yng Nghorfu (lle bûm ar fy ngwyliau).