Wythnos diwethaf bues i yng Ngharnifal Notting Hill yn Llundain ac roeddwn wrth fy modd gyda’r awyrgylch hwylus, egnïol a lliwgar. Un o’r pethau wnes i sylwi arno oedd yr holl faneri o wledydd yn y Caribî.

Fe wnaeth llawer o’r ymwelwyr wisgo yn lliwiau baner eu gwlad yn unig; o’u crysau-T lawr i’w trainers. Glas, melyn a du Barbados; gwyrdd, melyn a du Jamaica; coch, du a gwyn Trinidad a Tobago.