Mi fyddai rhai yn dweud mai aduniad Oasis yw newyddion syfrdanol yr wythnos, ac eraill yn honni mai’r masterplan ar hyd y blynyddoedd oedd ailffurfio a gwneud arian anferthol trwy gyfres o gigs mawr.
Doniol oedd clywed cyflwynwyr newyddion Radio Cymru a Radio Wales fore Mawrth, pawb mewn perlewyg ac ar dân dros gael ail-fyw dyddiau melys Breninhoedd y Britpop.
Un yn poeni am fethu â chael ei fachau ar docynnau i’r gigs Oasis yr Haf nesaf, un arall yn gweld y cadoediad rhwng y brodyr cecrus megis gwyrth.
Aeth tri deg mlynedd heibio ers rhyddhau eu halbwm seminal, Definitely Maybe, sydd heb os ymysg y goreuon.
Ac mae eu hapêl yn mynd tu hwnt i’r rheiny wnaeth ffoli ar ganeuon y band yn 1994, gyda ffans na chafodd eu geni ar y pryd yn ffrydio eu caneuon yn eu miliynau.
Ac mi fydd miliynau ar y We fore Sadwrn yn ceisio bachu tocynnau i’r gigs sy’n cychwyn yr Haf nesaf yn “yr hen Gaerdydd yna”!
Fe ddaeth Oasis i Sir Fynwy i recordio eu hail albwm, (What’s The Story) Morning Glory?, ac mi fedrwch edrych ymlaen at fflyd o straeon yn dathlu cysylltiadau Cymreig y band. (Fy ffefryn yw atgofion Noel o guddio rhag y glaw mewn carafán yn y Rhyl yn 1985, yn gwylio Live Aid ar deledu bach).
Fel gyda chyngherddau Taylor Swift a Pink eleni, mi fydd camerâu Heno a Newyddion S4C yno ger y stadiwm yn holi ffans y Brodyr Blewog yn dwll. Ond sut bethau fydd y gigs?
Ar y cyfan, mae’r math yma o ymgais i droi’r cloc yn ôl yn boenus.
A fydd “Oasis” 2025 – sef Liam, Noel a chriw o gerddorion nad oedd yn agos at y lein-yp gwreiddiol – yn medru ail-danio’r angerdd a darparu’r wefr?
Heb os, efallai…
Pen-blwydd Hapus Bryn Fôn
Tra bo’r cyfryngis Cymraeg yn teimlo yn supersonic am atgyfodiad Oasis, ychydig iawn iawn o sylw a roddwyd i’r ffaith fod un o sêr y Sîn Roc Gymraeg wedi bod yn dathlu carreg filltir go-bwysig.
‘Gwlad Y Rasta Gwyn’, ‘Mardi Gras Ym Mangor Ucha’, ‘Meibion Y Fflam’, ‘Plwy Llanllyfni’, ‘Rebel Wicend’, ‘Abacus’, ‘Ceidwad Y Goleudy’, ‘Y Bardd O Montreal’… ma’ bangars bytholwyrdd Bryn yn harddu’r canon pop Cymraeg ac mi fyddant fyw am byth.
Mewn unrhyw wlad gall, mi fyddai yna noson deyrnged i’r dyn ar ei ben-blwydd yn 70 oed ar y sianel deledu genedlaethol, gyda chlipiau archif rif y gwlith i ddotio atynt a chyfweliad estynedig am ei yrfa.
Mae Bryn Fôn wedi actio mewn un neu ddau o bethau i S4C hefyd. Rhyfedd na feddylion nhw am gael dathlu…
Ta waeth, a diolch byth am yr hen Rhys Mwyn a’i raglen nos Lun, wrth iddo ddathlu un o Champagne Supernova’s y Cymry ar Radio Cymru.
Neges i’r cyfryngau Cymraeg – byddwch yn fwy Rhys Mwyn!