Neuadd Penygroes yn Arfon oedd hi, ar ddechrau’r 1970au siŵr o fod a band o bedwar stiwdant o Gaerdydd wedi llenwi’r lle.

Roedd y caneuon yn dda – yn fwy hwyliog a chry’ na’r rhan fwya’ o ganu ‘pop’ Cymraeg – ond y seren oedd y boi yn y canol.

Mi wnaeth jôc am daro rhech, roedd o’n rhedeg o gwmpas y llwyfan ac yn dangos am y tro cynta’ i bobol ifanc fel ni fod bod yn wirion yn nod ynddo’i hun.