Mae Cymru wedi colli un o’i meibion doniolaf, mwya’ direidus ac annwyl.

Bu Dewi Pws yn athro, actor, cerddor, bardd, a’r llinyn arian trwy gydol ei yrfa oedd ei gariad tanbaid at ei wlad a’i hiaith…

Bu farw Dewi ‘Pws’ Morris yn 76 oed yn dilyn salwch byr.

Cafodd ei eni yn ardal Treboeth yn Abertawe yn 1948, a’i addysgu yn Ysgol Lon Las ac Ysgol Ramadeg Dinefwr.