Mae’r hydref wedi cyrraedd yn fuan ac yn bowld eleni – cyn diwedd y gwyliau haf, hyd yn oed, mae’r nos yn dechrau mynnu mwy o oriau, a’r oerfel wedi sleifio’n anweledig i mewn i’r cartrefi. Heb iddi feddwl am y peth, mae Eleri’n dychwelyd i’w harferion hydrefol – cynnau cannwyll min nos, rhoi blancedi ychwanegol ar y gwlâu, gadael lobsgows i ffrwtian am oriau er mwyn i’r arogleuon cysurlon lenwi’r tŷ.