Mae mudiad newydd dros Gymru Rydd yn cael ei ysbrydoli gan weithredoedd Cymdeithas yr Iaith yn yr hen ddyddiau…
“Ryda’n ni’n gweld y Gymraeg yn diflannu o fewn ein cymunedau”.
Dyma beth ddywedodd un o drefnwyr ifanc y mudiad ieuenctid Eryr Wen mewn sgwrs gyda Golwg. Mae am aros yn ddienw, a hynny achos ei fod yn paentio tros enwau Saesneg ar arwyddion ffordd dwyieithog – gweithred sy’n groes i’r gyfraith.
Ar eu gwefan mae criw Eryr Wen yn brolio: ‘Ni yw’r mudiad ieuenctid mwyaf newydd sy’n tyfu gyflymaf yn y sîn cenedlaetholgar Cymreig’.
Mae’n debyg eich bod wedi gweld ambell i stori yn y newyddion dros yr wythnosau diwethaf sydd wedi dwyn atgofion o ddyddiau cynnar Cymdeithas yr Iaith.
Yn yr 1960au a 1970au, roedd y Gymdeithas yn adnabyddus am baentio dros arwyddion ffyrdd a oedd yn uniaith Saesneg.
Hanner canrif yn ddiweddarach, ac mae’r un dacteg yn cael ei defnyddio… yr unig wahaniaeth yw mai arwyddion dwyieithog sy’n ei chael hi’r tro hwn.
Yn gynharach fis yma roedd Eryr Wen, sy’n fudiad ieuenctid dros annibyniaeth i Gymru, yn hawlio’r cyfrifoldeb am baentio dros fersiynau Saesneg o enwau lleoedd Cymraeg ar arwyddion ffyrdd ledled Sir Ddinbych. Roedden nhw wedi gwneud yr un peth yng Ngheredigion ym mis Mawrth.
Ond er eu bod yn difrodi arwyddion ffyrdd fel y gwnaeth Cymdeithas yr Iaith ers talwm, mae un gwahaniaeth amlwg – yn wahanol i aelodau’r Gymdeithas, a oedd eisiau cael eu hebrwng i lys barn a chael dadlau eu hachos yn gyhoeddus, nid yw Eryr Wen yn gadael i’r heddlu eu dal.
Wrth egluro pam nad ydyn nhw yn fodlon perchnogi eu gweithredoedd yn gyhoeddus, mae’r mudiad yn cyfeirio at John Jenkins, y cyn-filwr Prydeinig fu’n arwain Mudiad Amddiffyn Cymru rhwng 1964 a 1969, cyn cael ei garcharu am ddegawd am fomio swyddfeydd treth Llywodraeth Prydain a phibelli dŵr.
“Credwn fod ein hymgyrchwyr yn llawer mwy defnyddiol y tu allan i gelloedd carchardai,” meddai Eryr Wen.
“Fel y soniodd John Jenkins amdano yn fanwl, nid oes unrhyw beth yn gynhenid ddoeth nac effeithiol mewn cynnig eich hun i’r awdurdodau.
“Mae llwyddiant protestiadau Cymdeithas yr Iaith yn y gorffennol i’w briodoli i weithredu uniongyrchol beiddgar a chyson, nid yr arestiadau dilynol.
“Roedd yn wir yn ôl pan wynebodd Dafydd Iwan ond wythnosau o ddedfryd o dri mis o garchar, ond mae’n arbennig o wir nawr a ninnau’n byw o dan lywodraeth gynyddol awdurdodol sy’n ei hystyried yn addas i garcharu ymgyrchwyr amgylcheddol am hanner degawd am gymryd rhan mewn galwad Zoom.”
Pwy yw Eryr Wen?
Fe gafodd Eryr Wen ei ffurfio yn 2022 yn ei ddisgrifio ei hun fel “mudiad ieuenctid” sy’n ymgyrchu tros “weriniaeth Gymreig”.
Daw enw a symbol y mudiad o chwedl Yr Eryr Wen – y gred yw bod yr eryrod gwyn yn gwylio dros Gymru ac yn rhybuddio am ymosodiadau gelyniaethus o ben copaon Eryri.
Bu symbol eryr wen yn cael ei defnyddio gan Fyddin Rhyddid Cymru – y Free Wales Army – yn y 1960au.
Mae gan y mudiad sawl amcan gan gynnwys “amddiffyn a hyrwyddo’r” iaith Gymraeg, cefnogi annibyniaeth i Gymru, ac i “ddiddymu’r sefydliad brenhinol” er lles “cenedlaetholdeb gweriniaethol Cymreig”.
“Mi’r yda ni’n fudiad efo nifer o flaenoriaethau,” meddai’r un o’r trefnwyr mewn cyfweliad anhysbys â Golwg.
“Rydym yn brwydro dros weriniaeth i Gymru, i ddad-Saesnigo Cymru, i hybu’r iaith yng Nghymru, ac i wrthwynebu pethau fel tai haf.
“Ond mae o hefyd yn ymwneud efo ecoleg ac amddiffyn yr amgylchedd a mynd yn erbyn cyfalafiaeth sydd wedi mynd allan o reolaeth.”
“Gwarchod a hybu’r iaith”
Bu’r mudiad allan gyda’r paent yn Sir Ddinbych yn ddiweddar.
Cafodd nifer o arwyddion eu targedu, gan gynnwys rhai gydag enwau Saesneg ar gyfer Rhuthun a Dinbych.
Yn ôl cyfrifiad 2021, roedd 22.5% o bobol y sir sy’n medru siarad Cymraeg, sef gostyngiad o 2.4% ers 2011.
A bu peth ymateb negyddol i’r difrodi arwyddion dwyieithog, gyda rhai yn barnu bod gweithredu o’r fath am niweidio ewyllys da’r di-Gymraeg tuag at yr iaith.
Ond yn ôl un o drefnwyr y mudiad, mae yn rhaid i’r grŵp weithredu mewn ardaloedd lle mae’r Gymraeg yn y lleiafrif er mwyn diogelu’r iaith.
“Mi rydyn ni fel mudiad eisiau gwarchod a hybu’r iaith, yn enwedig mewn ardaloedd fel Sir Ddinbych lle mae siaradwyr Cymraeg yn y lleiafrif.
“Mae angen gwarchod yr enwau hanesyddol yma neu maen nhw’n mynd i ddiflannu.
“Does yna ddim rheswm pam ddylai Sir Ddinbych ddim bod yn rhan o’r ymgyrch.
“Mae yna enwau fel Rhuthun sydd ddim angen fersiwn Saesneg gan fod o bron fel y fersiwn Gymraeg.
“Yr unig reswm mae o’n bodoli ydi i helpu pobol ar eu gwyliau.”
Roedd am bwysleisio nad yw Eryr Wen yn paentio dros arwyddion sydd gyda chyfarwyddiadau i yrwyr.
Dywed hefyd mai prif amcan yr ymgyrch yw sicrhau bod un ai’r llywodraeth leol neu genedlaethol yn newid yr arwyddion i fod yn uniaith Gymraeg.
Er i Eryr Wen weithredu yn Sir Ddinbych y tro hwn, mae esiamplau o ymgyrchu tebyg wedi digwydd yng Ngheredigion, Gwynedd ac Ynys Môn dros y flwyddyn ddiwethaf.
Ond yn ôl y trefnwr, dim ond drwy weithredu mewn ardaloedd lle mae’r Gymraeg yn y lleiafrif mae sicrhau bod yr ymgyrch yn y newyddion ac yn codi ymwybyddiaeth.
Yn ymateb i’r hyn ddigwyddodd, dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Ddinbych wrth Golwg:
“Mi fyddwn ni’n cael gwared ar graffiti sydd ar unrhyw arwydd lôn unwaith rydym yn ymwybodol o unrhyw leoliad sydd wedi cael ei effeithio.
“Rydym eisiau atgoffa unrhyw droseddwyr bod anharddu ar arwyddion ffyrdd yn drosedd ac yn achosi risg diogelwch i yrwyr.
“Mae’r math yma o fandaliaeth yn golygu symud ein hadnoddau o waith arall sydd wedi cael ei gynllunio ar draws y sir er mwyn glanhau unrhyw graffiti ar arwyddion.”
Yn ôl un o drefnwyr Eryr Wen, “mae’n ddigon hawdd i’r cyngor neu bwy bynnag olchi’r arwyddion yma – dydi o ddim yn ddinistr parhaol”.
“Be’ sydd ddim yn ddinistr tymor byr yw’r hyn sydd yn digwydd i enwau hynafol Cymru, a’r Saesnigo sydd yn digwydd yn ein cymunedau.
“Rydym ni’n gweld y Gymraeg yn diflannu, yn enwedig mewn cymunedau gwledig fel Powys, Gwynedd a Sir Ddinbych, am lawer o resymau fel tai haf.”
Ar wefan twitter, daeth yr Aelod Seneddol Ceidwadol, Gareth Davies, allan yn erbyn ymgyrch yr Eryr Wen yn Sir Ddinbych.
“Mae Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 yn golygu bod Cymru yn wlad sydd yn rhoi cydbwysedd i’r iaith Gymraeg a Saesneg,” meddai’r Aelod Seneddol dros Ddyffryn Clwyd.
“Yn enwedig ar arwyddion cyhoeddus neu unrhyw beth sydd yn cael ei reoli gan awdurdod sector cyhoeddus, sef yr hyn yw’r arwyddion yn yr achos yma.
“Mae hyn yn ddifrod i eiddo cyhoeddus ac mi rydych chi [Eryr Wen] wedi cyfaddef i droseddu.”
Yn ymateb i’r feirniadaeth, dywed y trefnydd Eryr Wen: “Mae o’n dangos bod nhw’n meddwl mwy am yr eiddo [yr arwyddion yn yr achos hwn] na’r iaith hynafol yma sydd yn diflannu.”
“Yr iaith sy’n enaid y genedl”
Nid yr AS Gareth Davies AS yw unig feirniad yr ymgyrch.
Dywedodd y sylwebydd Lewis Norton, sydd ddim yn medru siarad Cymraeg, ar Nation.Cymru bod yna “ffocws cul ar faterion Cymraeg” gan grwpiau fel Eryr Wen.
“Bydd hyn yn parhau i weld nifer o siaradwyr Saesneg yn ddifreintiedig pan ddaw hi at alwadau am annibyniaeth.”
Gan fod Cymru Rydd yn un o flaenoriaethau Eryr Wen, a’r ffaith mai dim ond 17.8% sydd yn medru siarad Cymraeg ar hyn o bryd, gellir gweld bod yna resymeg tu ôl i’r farn bod yr ymgyrch yn hunan-niweidiol.
Yn ymateb i’r farn hon, dywed un o drefnwyr yr Eryr Wen eu bod nhw “ddim yn ymosod ar siaradwyr Saesneg” o ganlyniad i’r ymgyrch yma.
Pwysleisia hefyd bod y mudiad yn agored i bobol sydd ddim yn medru siarad Cymraeg.
“Ddim mater o eisio cael gwared â’r iaith Saesneg ydi o drwy orchuddio’r arwyddion yma,” meddai.
“Mae siaradwyr Saesneg yn gymaint o Gymry â siaradwyr Cymraeg.
“Efo annibyniaeth, mae’r iaith Gymraeg yn rhywbeth pwysig oherwydd yr iaith sy’n enaid y genedl.”
Ychwanega bod rhaid “dad-Saesnigo Cymru” i gael gwared o “enwau colony” sydd “wedi cael eu rhoi yma gan y Saeson”.
“Mwy o egni iau i’r hybu’r Gymraeg”
Yn hanesyddol, Cymdeithas yr Iaith sydd wedi arwain ar ymgyrchoedd ac ymdrechion i atgyfnerthu’r iaith Gymraeg mewn cymunedau ar draws Cymru.
Roedd ffigyrau fel Ffred Ffransis a Dafydd Iwan yn adnabyddus am eu hymdrechion i brotestio drwy ddefnyddio tactegau tebyg i Eryr Wen yn y 1960au a 1970au.
“Mi ddaru nhw, drwy wneud pethau fel hyn, gael gwared ar enwau fel Carnarvon a Dolgelley,” meddai un o drefnwyr Eryr Wen.
Dywed y trefnydd mai’r “tactegau heddychlon” yma sydd yn dylanwadu ar y grŵp heddiw.
“Does yna ddim dadlau bod y fath brotest wedi gweithio yn yr oes yna, felly pam ddim rŵan?”
Er bod y mudiad yn “gweithio’n agos” gyda’r Gymdeithas, dywed un o drefnwyr Eryr Wen bod “ddim llawer o ieuenctid yn gweithredu” gyda Chymdeithas yr Iaith.
“Dydyn nhw ddim yn gwneud llawer fel yr oedden nhw’n ei wneud lawer o ddegawdau yn ôl.
“Felly ymdrech i roi mwy o egni iau i mewn i’r mudiad i hybu’r Gymraeg ydi hon.”
Ychwanegodd bod y Gymdeithas wedi “cael problemau” wrth wneud protestiadau fel paentio dros arwyddion o ganlyniad i bwerau “mwy draconian” sydd gan yr heddlu.
O dan y Llywodraeth Geidwadol ddiwethaf, bu’r cyn-Ysgrifennydd Cartref Suella Braverman yn cyflwyno grymoedd newydd i’r heddlu i fynd i’r afael â phrotestiadau heddychlon.
“Mae cael pobol ifanc i gael diddordeb ac i weithredu efo gwleidyddiaeth, yn enwedig i wneud pethau sydd mewn ardal lwyd o’r gyfraith, fel efo’r arwyddion, yn anodd,” meddai un o drefnwyr Eryr Wen.
Ond ychwanegodd ei fod yn hyderus mai paentio’r arwyddion yw’r peth cywir i wneud, drwy gydnabod ar yr un pryd bod hynny yn “erbyn y gyfraith”.
“Dim ots” gan Lywodraeth Cymru am yr iaith
Dros y degawdau diwethaf, mae grwpiau sydd o blaid hybu’r iaith Gymraeg ac annibyniaeth i Gymru wedi dod yn fwy adnabyddus gyda gorymdeithiau heddychlon.
Bu i YesCymru ddenu miloedd i’w ralïau ledled y wlad.
“Mae gorymdeithiau yn dda,” meddai un o drefnwyr Eryr Wen.
“Maen nhw’n helpu’r mudiad ac i dyfu pa mor weledol ydi’r mudiad i weddill Cymru.”
Er hyn, dywedodd “bod disgwyl i’r llywodraeth i weithredu” o ganlyniad i orymdeithio “ddim yn gweithio ar y funud”.
Nid yw Eryr Wen yn credu bod gan y blaid Lafur yng Nghymru “unrhyw ots am gyrraedd y targed o un filiwn o siaradwyr erbyn 2050”.
Mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi cynllun gweithredu i fynd gyda strategaeth yr iaith Gymraeg cyflawn pob pum mlynedd.
“Does yna ddim byd cadarnhaol ganddynt,” meddai trefnydd Eryr Wen.
“Ddim byd ar newid ysgolion gyfrwng Saesneg i mewn i ysgolion Cymraeg, yn enwedig yn y de.”
Fe gafodd y pwnc hwn sylw mewn gorymdaith ar faes yr Eisteddfod ym Mhontypridd ddechrau’r mis, gyda galw gan Gymdeithas yr Iaith am fwy o addysg Cymraeg ar draws ardal Rhondda Cynon Taf.
Mae trefnydd Eryr Wen yn dweud nad ydyn nhw “ddim yn cefnogi” unrhyw blaid yn uniongyrchol, a bod “ddim ots pa blaid sydd yn y Senedd”.
Ychwanega eu bod nhw’n credu bod y gwleidyddion “ddim yn mynd i wneud unrhyw beth” nes bod “eu llaw nhw yn cael ei gorfodi gan ymgyrchu” gan grwpiau fel Eryr Wen.
Yn ymateb i’r cyhuddiad bod dim digon yn cael ei wneud er lles yr iaith Gymraeg, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru wrth Golwg:
“Mae’r Gymraeg yn perthyn i holl gymunedau Cymru, ac mae gennym gynlluniau cadarn i gyrraedd ein nod o filiwn o siaradwyr Cymraeg a chynyddu’r defnydd dyddiol o’r iaith erbyn 2050.
“Mae’r rhain yn cynnwys cyflwyno Bil y Gymraeg ac Addysg a fydd yn galluogi pob disgybl ysgol yng Nghymru i ddod yn siaradwyr Cymraeg annibynnol a hyderus; a chynyddu trosglwyddiad iaith yn y cartref, ymysg pobl ifanc, ac o fewn cymunedau er mwyn creu cyfleoedd i siarad a mwynhau yn y Gymraeg.
“Rydym yn cydnabod bod angen mesurau penodol i gefnogi’r Gymraeg mewn cymunedau lle mae mwyafrif y boblogaeth yn siarad yr iaith, neu lle mae hyn wedi bod yn wir tan yn gymharol ddiweddar. I adnabod yr ymyriadau polisi gorau i gryfhau’r Gymraeg yn y cymunedau hyn, fe wnaethom sefydlu’r Comisiwn Cymunedau Cymraeg yn 2022.
“Cyflwynodd y Comisiwn adroddiad cynhwysfawr i’r Llywodraeth yn yr Eisteddfod yn gynharach y mis hwn, ac rydyn ni nawr yn ystyried y canfyddiadau a’r hargymhellion yn ofalus.”
Hyd nes bod yr awdurdodau yn symud at ddefnyddio enwau Cymraeg yn unig ar arwyddion, mae Eryr Wen yn dweud y bydd “yr ymgyrch am barhau ledled Cymru”.