Mae Hannah Stocking yn ymgymryd â her a hanner fis yma wrth iddi anelu at redeg o gyffiniau Clawdd Offa i lannau’r Fenai.

Bydd hyn yn golygu rhedeg bron i bedwar marathon arferol ac mae disgwyl iddi gwblhau’r 104 o filltiroedd mewn tua 38 awr… ac mi fydd ei thaith yn cynnwys rhedeg i fyny’r Wyddfa!