Ychydig dros ddeufis sydd i fynd nes i ni weld pwy fydd yn arwain gwlad fwyaf pwerus y byd. Etholiad arlywyddol UDA ydi, efallai, yr un pwysicaf yn y byd, gyda thonnau’r canlyniad yn taro ar draethau ymhell y tu hwnt i America ei hun. Gallai’r un yma newid cwrs y byd.