Mi wnes i godi cwestiwn yr wythnos diwethaf am ffitrwydd Aaron Ramsey. Mae’n amlwg i fi bod Ramsey dal yn dioddef efo anaf a bydd rhaid rheoli ei amser ar y cae yn ofalus. Doeddwn i ddim yn disgwyl iddo fo ddechrau yn Burnley ar y penwythnos, ond wnaeth e chwarae’r gêm gyfan a pharhau ar y cae tan iddo gael ei anafu yn hwyr a gorfod gadael y cae. Yn anffodus i Gaerdydd, doedd yna ddim eilydd ar gael i gymryd ei le.