Gyda’r haf yn ei anterth, mae’r twristiaid yn ôl yn eu miloedd i darfu ar fywydau pob dydd y sawl ohonom sydd ddim yn cael gwyliau haf. Mae hon yn gŵyn flynyddol gen i, a sawl un ohonoch hefyd. Fel y rhan fwyaf o bobl yng ngorllewin Cymru, dwi’n cael dim budd o dwristiaeth, dim ond strach.