Wedi’r ymgyrch ar fywyd Donald Trump rai wythnosau’n ôl, roedd yr ymateb cychwynnol yn gadarn. Datganodd Joe Biden wrth bawb fod hynny ddim yn Americanaidd, nad dyna pwy oedden nhw fel pobl a gwlad. Rhoddodd yr ymgais i’w ladd sioc i bawb, ond doedd hi ddim yn syfrdan i weddill y byd. Mae gan y wlad hen hanes o drais gwleidyddol yn mynd yn ôl i’w sefydlu. Yn gryno, dyna’n union beth ydi America.