Enillydd y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf yw’r newyddiadurwr Gwynfor Dafydd. Daeth y bardd o Donyrefail i’r brig mewn cystadleuaeth a ddenodd 33 o geisiadau, gyda cherddi yn talu teyrnged i’w fagwraeth yn y Cymoedd.

Yn ei feirniadaeth dywedodd Tudur Dylan Jones: “Mae yn cyflwyno dilyniant sy’n digwydd gweddu’n berffaith i fro’r Eisteddfod eleni, am mai yn ei thir a’i daear hi y mae ei wreiddiau… Mae’n teimlo’n un â’r gymdeithas, ac eto fymryn ar wahân…”