Tra bo S4C wedi bod yn gwario hanner miliwn o bunnau a mwy ar gyfreithwyr i ymchwilio i fwlio, mae’r Eisteddfod wedi bod yn gwneud defnydd tipyn callach o arian cyhoeddus.

Er mwyn gallu denu trigolion lleol sydd ar incwm is draw i Brifwyl Ponti, mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi £350,000 at ddarparu tocynnau am ddim a thalebau bwyd.

Mae’n golygu fod hyd at 15,000 yn gallu cael mynediad i’r Maes heb orfod talu, a chael blas ar yr iaith Gymraeg a’i diwylliant unigryw.