Cadeirydd Pwyllgor Gwaith yr Eisteddfod Genedlaethol eleni yw’r ferch o Donyrefail, Helen Prosser – a hi yw gwestai’r golofn lyfrau yr wythnos yma. Tybed a fydd hi’n llwyddo i ddarllen y Cyfansoddiadau o glawr i glawr eleni, am y tro cyntaf?

Y llyfr dw i ar ganol ei ddarllen

Dw i newydd orffen darllen The Bee Sting gan Paul Murray ac wedi darllen pennod neu ddwy o Tadwlad gan Ioan Kidd, ac yn ei fwynhau. Dw i’n edrych ymlaen at ei orffen ar ôl yr Eisteddfod.

Y llyfr a newidiodd fy mywyd

Mae’r ateb hwn yn un hawdd – Yn ôl i Leifior (Islwyn Ffowc Elis). Dewis rhyfedd, dw i’n gwybod, gan mai dilyniant i Cysgod y Cryman yw e ond doeddwn i ddim yn gwybod hynny ar y pryd. Gwnes i Lefel A Cymraeg ail iaith ac yn ystod gwyliau’r haf roeddwn i eisiau darllen nofel. Yn ôl i Leifior oedd y llyfr y ces i hyd iddo. Felly, newidiodd fy mywyd achos dangosodd i fi fy mod i wedi dysgu iaith yn ddigon da i allu mwynhau darllen nofel er mwyn pleser, nid er mwyn astudio yn unig.

Y llyfr a ddylanwadodd fwyaf arnaf 

Fel rhan o fy nghwrs gradd ym Mhrifysgol Aberystwyth, gwnes i fodiwl arbrofol dan adain Felicity Roberts o’r enw Crefft Adfer Iaith. Cyflwynodd Felicity ni i ymdrechion i adfer iaith ar draws y byd ac un o’r llyfrau a ddarllenais rai blynyddoedd ar ôl graddio oedd Reversing Language Shift gan yr arbenigwr Joshua Fishman. Mae’n sôn am theorïau adfer iaith ond hefyd yn edrych ar astudiaethau achos 12 o wahanol ieithoedd ar draws y byd. Dyw’r Gymraeg ddim yn un ohonynt!

Y llyfr sy’n hel llwch

Cyfansoddiadau’r Eisteddfod Genedlaethol yn flynyddol. Dw i’n mwynhau pori a busnesa ond erioed wedi llwyddo i’w ddarllen o glawr i glawr. Hefyd, mae fy mab yn dweud o hyd y dylwn i ddarllen A Little Life gan Hanya Yanagihara ond mae’n hir ac yn drist felly mae’r llwch yn mynd yn fwy trwchus.

Llyfr yr hoffwn fod wedi’i ddarllen, ond heb wneud

Mae yna lawer iawn ohonyn nhw ond dw i’n teimlo’n euog nad ydw i wedi darllen Long Walk to Freedom, hunangofiant Nelson Mandela.

Y llyfr dw i’n troi ato mewn cyfyng gyngor

Mae’n dibynnu ar y cyfyng gyngor wrth gwrs, ond os bydd un o fy nysgwyr yn gofyn cwestiwn gramadegol astrus iawn, Gramadeg y Gymraeg gan Dr Peter Wynn Thomas sy’n dod i’r adwy bob tro.

Y llyfr sy’ wastad yn codi gwên

Mae’n siŵr bod y rhan fwyaf ohonon ni wedi darllen mwy yn ystod y cyfnodau clo. Dw i’n lwcus iawn bod gen i ddau blentyn sy’n ddarllenwyr brwd ac yn gallu argymell llyfrau. Un o’r rhai oedd yn codi gwên mewn cyfnod mor anodd yw Eleanor Oliphant is Completely Fine gan Gail Honeyman. Dyw e ddim yn llyfr i wneud i rywun chwerthin mas yn uchel ac, a dweud y gwir, mae’n gwneud i rywun grio ar adegau ond mae’n bendant yn codi gwên ac yn gadael rhywun gyda theimlad braf.

Llyfr i’w roi yn anrheg

Llyfr arall a ddarganfues i yn ystod y cyfnodau clo oedd A Man Called Ove gan Fredrik Backman. Yn debyg i Eleanor Oliphant…, mae’n llyfr annwyl sy’n gwneud i rywun grio a gwenu, ac yn tanlinellu beth sy’n bwysig mewn bywyd.

Fy mhleser (darllen) euog

Rhaid dweud fy mod yn hoff o gymeriadau Sally Rooney, yn enwedig Marianne a Connell yn Normal People. A beth am Facebook? Cyn yr Eisteddfod, anaml iawn roeddwn i’n gweld unrhyw beth ar Facebook a byth yn postio. Mae wedi bod yn ddefnyddiol iawn o ran rhannu gwybodaeth am bob math o ddigwyddiadau ond, wrth gwrs, mae rhywun hefyd yn cael ei dynnu i ddarllen pob math o bethau eraill. A fydd yr arfer yma’n newid ar ôl y Steddfod, tybed?

Y llyfr yr hoffwn gael fy nghofio amdano

Dw i’n anobeithiol yn greadigol ond dw i’n sgrifennu neu’n golygu llawer o gyrsiau Dysgu Cymraeg. Fydd neb yn fy nghofio i amdanyn nhw ond gobeithio eu bod yn gymorth i ambell un ar y daith tuag at ddod yn siaradwr Cymraeg.

Helen Prosser

Cafodd Helen ei magu yn Nhonyrefail, ac roedd ei rhieni yn wreiddiol o Dalacharn, Sir Gaerfyrddin. Astudiodd y Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth. Pan oedd yno bu’n weithgar gyda Chymdeithas Llywelyn, y gymdeithas ar gyfer myfyrwyr oedd eisiau helpu myfyrwyr eraill i ddysgu’r Gymraeg a bu’n ymgyrchydd brwd a di-ofn gyda Chymdeithas yr Iaith Gymraeg. Mae hi wedi treulio’i gyrfa yn dysgu’r Gymraeg i Oedolion – ym Mhrifysgol Abertawe, CBAC, Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol De Cymru. Cafodd ei hanrhydeddu’r llynedd gan Brifysgol Aberystwyth gyda Chymrodoriaeth er Anrhydedd am ei gwaith fel tiwtor Cymraeg. Erbyn hyn hi yw Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu yn y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.