Un o feirdd diweddaraf y sîn yw Meleri Davies. Bu Golwg yn sgwrsio gyda hi am ei chasgliad cyntaf o gerddi…
Un o Gwm Prysor ger Trawsfynydd yw Meleri Davies, sydd wedi ymgartrefu ers ugain mlynedd yng nghyffiniau Bethesda. Am y 10 mlynedd diwetha bu’n arwain project ynni cymunedol arloesol Partneriaeth Ogwen, a nawr mae hi’n Brif Weithredwr dros dro yn Galeri, Caernarfon ddeuddydd yr wythnos, ac yn treulio’r gweddill yn cynghori mentrau cymunedol.