Ddylen ni ddim meddwl na allai terfysgoedd dinasoedd Lloegr ddigwydd yng Nghymru. Mae pleidlais yr asgell dde yma yn ddigon i ddangos bod yna dir ffrwythlon i’r rheiny sy’n rhannu celwydd a chasineb di-sail.

Ac mae rhannau helaeth o Gymru, gan gynnwys y Cymoedd lle mae’r croeso mor gynnes a hael, yn diodde’ o’r amgylchiadau economaidd a chymdeithasol sy’n creu cyfle i anniddigrwydd.